Cyflogau sylfaenol ACau: O blaid cynnydd o £10,000
- Cyhoeddwyd

Mae'r corff sy'n pennu cyflogau Aelodau Cynulliad o blaid cynnydd o £10,000 yn eu cyflog sylfaenol.
Bydd cyflog aelod meinciau cefn felly'n codi o £54,000 i £64,000 wedi etholiad y cynulliad os fydd y newid yn cael ei gymeradwyo.
Pan gafodd y cynnig ei amlinellu ym mis Tachwedd y llynedd roedd gwleidyddion ac undebau'n feirniadol.
Ond dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cydnabyddiaeth Ariannol y Cynulliad, Sandy Blair, fod mwy o ddatganoli wedi arwain at fwy o gyfrifoldebau.
Y bwrdd sydd â'r penderfyniad terfynol.
Ddydd Gwener mae'r penderfyniad drafft yn cael ei gyhoeddi cyn penderfyniad terfynol yn Ebrill.
Dywedodd Mr Blair: "Dyw hon ddim yn adeg hawdd o ran awgrymu y dylai cynrychiolwyr sydd wedi eu hethol yn ddemocrataidd gael mwy o dâl.
'Hollol wahanol'
"Ond mae ein pecyn drafft yn adlewyrchu y bydd y Cynulliad wedi etholiad 2016 yn sefydliad hollol wahanol, ac mae'r pecyn yn fuddsoddiad mewn democratiaeth - yng ngallu ac ansawdd y Cynulliad - fel ei fod yn ateb y gofyn."
Roedd yn siomedig, meddai, mai dim ond 65 o bobl oedd wedi ymateb i'r ymgynghoriad cyntaf.
Yn y cyfamser, mae'r bwrdd wedi cynnig y dylai £900,000 y flwyddyn fod ar gael i ariannu grwpiau gwleidyddol yn y Cynulliad nesa.
Os yw'n cael ei weithredu, byddai pob plaid yn cael mwy o arian ond byddai arian ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol yn gostwng o £222,000 i £150,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2014