Owain Tudur Jones yn ymddeol o bêl-droed
- Published
Mae'r chwaraewr pêl-droed canol cae Owain Tudur Jones wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol.
Yn wreiddiol o Fangor, roedd wedi bod ar lyfrau Abertawe a Norwich cyn symud i chwarae yn yr Alban.
Enillodd saith o gapiau rhyngwladol a thri chap i'r tîm dan 21 oed.
Dywedodd y chwaraewr 30 oed ei fod yn ymddeol o'r gêm oherwydd anaf i'w ben-glin.
Pan symudodd i'r Alban arwyddodd i Inverness Caledonian Thistle a Hibernian cyn symud i Falkirk.
"Es i weld y llawfeddyg mis Hydref, yn anffodus ers y cyfnod yna doedd y pen-glin ddim i weld yn gwella.
"Digwyddodd yr anaf diweddara rhyw ddiwrnod cyn i mi droi yn 30, roedd yn rhai penderfynu'r ffordd orau o symud ymlaen.
Uchafbwynt
"Os o ni eisiau byw yn holliach byddai'n well rhoi'r gorau iddi."
Dywedodd fod o a'i deulu yn edrych ymlaen at symud yn ôl i gyffiniau Bangor, a bod ei blant eisoes wedi setlo yn Ysgol y Garnedd.
"Does yna ddim brys o ran be dwi am wneud nesa, ond o bosib bod y wasg a'r cyfryngau yn rhoi cyfle, ond rwy'n agored at rywbeth."
Dywedodd mai ei uchafbwynt fel chwaraewr oedd cynrychioli ei wlad.
"Mae anafiadau wedi cael lot o effaith ar fy ngyrfa ond mae'n rhaid edrych yn bositif, mae chwarae dros fy ngwlad saith o weithiau yn rhywbeth i edrych nôl efo gwen ar fy wyneb.
"Bydd y capiau efo fi am byth. Roedd hefyd yn bleser bod yn rhan o'r carfanau wnaeth lwyddo cael dyrchafiad ac yn brofiadau bydd rhywun yn ei gofio byth bythoedd."