Gŵyl Cyfryngau Celtaidd: Enwebiadau
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, CMF2015
Mae llawer o gynnyrch o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd gafodd ei chyhoeddi fore Gwener, 6 Mawrth.
Yn eu plith mae 'ap' Cymru Fyw yn y categori 'Ap Gorau', BBC Radio Cymru fel yr 'Orsaf Radio Orau' a Dei Tomos yng nghategori'r 'Personoliaeth Radio Gorau'.
Mae llu o raglenni teledu a radio Cymraeg ymysg y 118 o enwebiadau yn yr 20 categori.
Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal yn Inverness yn Yr Alban o 22-24 Ebrill.
Yr enwebiadau Cymraeg yw:
- I Grombil Cyfandir Pell (S4C/Ie Ie Productions) - Celfyddydau;
- Dim Byd (S4C/Cwmni Da) - Adloniant;
- Adam Price a Streic y Glowyr (S4C/Tinopolis) - Cyfres ffeithiol;
- Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (S4C/Telesgop) }
- Mered (S4C/Cwmni Da) } Rhaglen unigol ffeithiol;
- O'r Galon: Yr Hardys - Un Dydd Ar Y Tro (S4C/Rondo) }
- Y Syrcas (Ffati Ffilms) - Drama hir;
- Prosiect iBeacons Oriel Plas Glyn-y-Weddw (Cwmni Da) - Gwobr Keiran Hegarty am Ddyfeisgarwch;
- BBC Cymru Fyw - App Gorau;
- Dei Tomos (BBC Radio Cymru) - Personoliaeth/Cyflwynydd Radio;
- Ar Y Marc/Pêl-droed (BBC Radio Cymru) - Rhaglen Chwaraeon Radio;
- C2 Goreuon Y Byd O'r Bae (BBC Radio Cymru) - Rhaglen Gerddoriaeth Radio;
- BBC Radio Cymru - Gorsaf Radio'r Flwyddyn.