Cyn-bennaeth yn euog o gamymddwyn

  • Cyhoeddwyd
Jill Evans
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafwyd Jill Evans yn euog o ymddygiad proffesiynol annnerbyniol

Mae panel disgyblu yng Nghaerdydd wedi penderfynu fod cyn-brif athrawes ysgol gynradd ym Merthyr Tudful yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Ni fydd Jill Evans, 54 oed, yn cael dysgu eto am ddwy flynedd wedi i banel Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gytuno ei bod wedi bwlio pum aelod o staff Ysgol Gymunedol Heolgerrig rhwng 2007 a 2010.

Fe wnaeth Ms Evans hefyd ganiatáu i ofalwr oruchwylio dosbarth tra bod cynorthwyydd dysgu yn cael torri ei gwallt.

Roedd Ms Evans wedi gwadu naw cyhuddiad o gamymddwyn proffesiynol.

Ond penderfynodd y panel bod tri chyhuddiad wedi'u profi, a dau arall wedi'u profi'n rhannol, ac roedden nhw o'r farn fod hynny gyfystyr ag "ymddygiad proffesiynol annerbyniol".

Bygwth staff

Dywedodd cadeirydd y panel, Jacquie Turnbull, bod gweithredoedd Ms Evans wedi mynd "y tu hwnt i reolaeth gadarn".

Dywedodd fod Ms Evans wedi bygwth staff i arwyddo llythyr yn gwrthwynebu cae chwarae newydd i'r ysgol, ac fe soniodd am dystiolaeth cynorthwyydd dysgu, Yvonne Mahoney, i'r panel ei bod wedi teimlo'n "frawychus ac ofnus" oherwydd y modd yr oedd Ms Evans yn ei thrin.

Cyhuddwyd Ms Evans hefyd o roi swydd fel cynorthwyydd dysgu i Lindsay Bolton - partner ei mab - yn groes i ganllawiau'r Cyngor.

Hyd yn oed os nad oedd Ms Evans yn ymwybodol o'r berthynas rhwng ei mab a Ms Bolton pan gafodd y swydd, medd Ms Turnbull, roedd hi yn ymwybodol ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Erbyn hynny roedd Ms Bolton wedi cael dyrchafiad a chodiad cyflog oedd heb ei awdurdodi.

Ni chafodd honiadau fod Ms Evans wedi camddefnyddio grant ariannol, ei bod wedi torri ymddiriedaeth a chyfrinachedd na'i bod wedi methu ymateb i bryderon iechyd a diogelwch yn yr ysgol, eu profi.

Yn eiriol drosti gerbron y panel, dywedodd Gwilym Roberts-Harry bod Ms Evans wedi cael "gyrfa wych hyd at nawr" a bod Ysgol Heolgerrig ac ysgolion eraill lle'r oedd wedi gweithio wedi cael archwiliadau positif.

Cytunodd Ms Turnbull gyda hynny, ond dywedodd na fyddai'n cael dysgu am ddwy flynedd yng ngoleuni darganfyddiadau'r panel.

Ychwanegodd Mr Roberts-Harry ei bod yn annhebygol y byddai Ms Evans yn dychwelyd i ddysgu o gwbl a'i bod yn "debygol o ddechrau tynnu pensiwn cyn bo hir".