Cynhadledd ar y Gymraeg a thechnoleg
- Cyhoeddwyd
Bydd cynhadledd, gan fudiad Hacio'r Iaith, yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor, gan ystyried y berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a'r byd digidol.
Daw'r gynhadledd wedi i ddigwyddiad 'Trwy Ddulliau Technoleg' gael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener.
Yn ystod y gynhadledd ddydd Gwener cafodd meddalwedd newydd a fydd yn galluogi llunio technoleg gyfrifiadurol yn y Gymraeg ei lansio, fydd ar gael am ddim i gwmnïau a haciwyr iaith.
Cafodd y meddalwedd ei ddatblygu gan y brifysgol.
'Blociau adeiladu'
Ymysg yr wyth rhaglen cyntaf i'w cyhoeddi dan faner Port Technolegau Iaith bydd rhaglen cyfieithu peirianyddol Cymraeg i Saesneg a llais synthetig Cymraeg.
Mae'r math yma o raglenni'n cael eu hystyried yn 'flociau adeiladu' sydd eu hangen ar beirianwyr meddalwedd wrth lunio apiau, gemau a gwefannau Cymraeg, a bydd modd eu defnyddio wrth godio neu greu rhaglenni.
Derbyniodd y prosiect £49,779 o gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2014-15 Lywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o ysgogi creu pecynnau meddalwedd a gwasanaethau digidol Cymraeg newydd.
Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Mae technoleg yn rhan bwysig o'n bywydau bob dydd felly mae'n bwysig bod y dechnoleg diweddara ar gael yn ddidrafferth i gefnogi'r Gymraeg fel iaith byw.
"Fe fydd yr adnoddau yma, sydd wedi cael ei datblygu gydag arian o'n gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg, nawr ar gael yn rhydd ac yn hawdd i ddatblygwyr.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld y defnydd creadigol fydd yn cael ei wneud ohonyn nhw."
'Dysgu llawer'
Ychwanegodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: "Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyfle hwn i'r Gymraeg ddangos arweiniad yn y maes digidol.
"Mae llawer o ieithoedd mewn sefyllfa debyg i'r Gymraeg, a gallwn ni ddysgu llawer wrth ein gilydd wrth geisio sicrhau presenoldeb teilwng i'n hieithoedd ar y cyfryngau digidol.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld yr adnoddau hyn yn fyw ar y Porth Technolegau Iaith."
Straeon perthnasol
- 1 Awst 2014
- 4 Gorffennaf 2014
- 23 Ionawr 2014