Arestio dyn wedi gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi'i arestio wedi i ddynes farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion.
Bu farw'r ddynes 41 oed pan wnaeth ei char Peugeot 107 wrthdaro gyda char Skoda Yeti ar yr A487 rhwng Blaenporth a Tanygroes fis diwethaf.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ond bu farw o'i hanafiadau ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod dyn 26 oed wedi'i arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth.