Sir Benfro: Treth cyngor yn cynyddu 4.5%

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo cyllideb yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod.

Fe fydd treth cyngor yn cynyddu 4.5%, gan olygu y bydd cynnydd o £34.49 i eiddo Band D.

Mewn datganiad bnawn Gwener, dywedodd y cyngor mai £12.3 miliwn ydi targed arbedion 2015/16 - a hynny'n bennaf oherwydd gostyngiad yn y grant gan lywodraeth Cymru.

Fe ddywedodd Jamie Adams, arweinydd y cyngor fod gorfod cynyddu pris treth y cyngor yn siomedig, ond nad oedd modd osgoi'r newid.

"Yr her fwyaf allweddol ydi gwarchod y gwasanaethau hynny sy'n effeithio ar y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau," meddai.