Grym y gwefannau cymdeithasol?
- Cyhoeddwyd

Does dim dwywaith bod yna etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae fy ffrwd Twitter yn prysur lenwi gyda gwleidyddion yn postio lluniau ohonyn nhw'n cnocio drysau ac yn trydar am y croeso gwresog maen nhw'n ei gael ar stepen y drws.
Dwi'n amau'n fawr mai dyna realiti'r sefyllfa, ond mae'n amlwg bod llawer mwy o wleidyddion yn defnyddio gwefannau cymdeithasol i ymgyrchu ac i rannu eu neges yn yr etholiad yma.
O ganlyniad mae yna lot o sôn mai hon fydd etholiad digidol cyntaf y wlad hon. Ond oes yna wirionedd yn hynny?
Oes, yn ôl Lleu Williams, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
"Os oes yna un gwahaniaeth mawr rhwng yr etholiad cyffredinol yn 2010 a'r un eleni, twf y gwefannau cymdeithasol yw hwnnw.
"Tra bod Twitter a Facebook yn bodoli bum mlynedd yn ôl, mae eu defnydd wedi ffrwydro dros y cyfnod yma, ac mae hynny'n cynnwys defnydd gan wleidyddion. Felly mae'n deg cyfeirio at yr etholiad yma fel yr etholiad digidol cyntaf".
Adnoddau ac arian
Mae'r pleidiau yn sicr yn darparu mwy o adnoddau ac arian nag erioed ar gyfer ymgyrchu digidol - mae'r Ceidwadwyr yn gwario £100,000 y mis ar Facebook.
A'r gobaith yw defnyddio grym gwefannau fel Facebook, Twitter a YouTube i dargedu etholwyr sydd efallai ddim yn gwylio rhaglenni newyddion traddodiadol, gan ddylanwadu mewn ffyrdd llawer mwy anffurfiol.
Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn allweddol ar gyfer ymgyrch Barack Obama yn yr Unol Daleithiau, ac mae'r Ceidwadwyr a'r blaid Lafur wedi penodi pobl fu'n rhan o'i ymgyrch yn y gobaith o efelychu ei lwyddiant.
Ond o'r 15 miliwn o bobl sy'n defnyddio Twitter yn y DU erbyn hyn, faint mewn gwirionedd sy'n dilyn pleidiau gwleidyddol neu eu gwleidydd lleol? Y peryg yw eu bod nhw'n siarad â chefnogwyr selog yn unig, yn hytrach na chysylltu ag etholwyr yn ehangach.
Dyna'n sicr oedd i'w weld yn ystod refferendwm yr Alban, yn ôl Lleu Williams.
"Fe welwyd adeg y refferendwm mai cefnogwyr selog yr ymgyrchoedd IE a NA oedd yn trydar rhan fwyaf o'r amser, ac yn dadlau a thrafod gyda'i gilydd ar y gwefannau yma.
"Felly rhaid cwestiynu pa mor bell y bydd y pleidiau yn gallu ymestyn eu dylanwad ar-lein dros y ffyrdd mwy traddodiadol o ymgyrchu".
Ffisig i bob clwyf?
Y rheswm fod gwefannau cymdeithasol mor boblogaidd gyda gwleidyddion a'u pleidiau yw eu bod nhw, yn wahanol iawn i'r wasg draddodiadol, yn gallu rheoli'r neges maen nhw am ei rannu yn llawer mwy effeithiol.
Ond dyw'r cyfryngau cymdeithasol ddim yn ffisig i bob clwyf, mae gormod o ryddid hefyd yn gallu bod yn beth peryg, mae'n llawer rhy hawdd i wleidyddion drydar heb feddwl a dweud rhywbeth twp all adlewyrchu'n wael ar eu plaid.
Mae hefyd yn bwysig cofio nad pawb sydd â chyswllt i'r we, ac 58% o gartrefi Cymru sydd â band eang cyflym.
Felly, er ei fod yn glir bod gan wefannau cymdeithasol rôl arbennig i'w chwarae yn yr etholiad hwn, beth sydd ddim yn sicr yw faint o bleidleisiau y bydd y cyfrwng yn ei sicrhau i'r pleidiau yn y pendraw. Felly gwae unrhyw wleidydd sy'n anwybyddu'r pamffledi arferol a'r gwaith caled o gnocio drysau.