Wrecsam 1-0 Caer
- Cyhoeddwyd

Mae Kieron Morris ar fenthyg o Walsall
Mae Wrecsam wedi ennill eu gêm ddarbi gyntaf ers 2008, diolch i gôl gynnar gan Kieron Morris.
Roedd 'na nifer o gyfleoedd yn ystod y gêm i Gaer a Wrecsam, ond wedi'r cyffro, 1-0 oedd hi ar y Cae Ras.
Dyma fuddugoliaeth gyntaf Wrecsam yn erbyn y gelynion lleol ers i Gaer ail-ffurfio yn 2010.