Osi Rhys Osmond wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae'r artist a'r darlithydd, Osi Rhys Osmond wedi marw wedi brwydr hir â chanser.
Yn enedigol o Wattsville, Sirhywi, roedd yn ddalithydd yn Ysgol Celf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Abertawe.
Fe gafodd ei urddo i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 2006, am ei gyfraniad i fyd celfyddydau ac addysg, ac am hybu'r iaith Gymraeg.
Roedd yn wyneb a llais cyfarwydd, wrth iddo ddarlledu ar radio a theledu.
Ef oedd cyflwynydd y gyfres 'Byd o Liw' ar S4C yn 2006.
Yn 2013, fe ddaeth yn Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Roedd yn byw yn Llansteffan.
'Cymro i'r carn'
Fe ddywedodd cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith:
"Gyda thristwch, rydym yn cyhoeddi marwolaeth ein cydweithiwr a'n ffrind annwyl, Osi Rhys Osmond.
"Fe ddangosodd gryfder a dewrder ein ei frwydr hir â chanser.
"Roedd yn aelod deinamig a brwdfrydig o'r cyngor, gan gadeirio ein Pwyllgor Biennale Fenis mewn modd ysbrydoledig.
"Rydym ni'n ei gofio fel un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru, a Chymro i'r carn. Fe fydd hiraeth ar ôl ei bresenoldeb disglair."