Gweilch 26 - 12 Munster
- Cyhoeddwyd

Gweilch 26 - 12 Munster
Yn y Pro12 bnawn Sadwrn, fe drechodd y Gweilch Munster yn y Liberty.
Daeth 21 o bwyntiau'r Gweilch o droed y maswr Sam Davies, ag fe sgoriodd Dan Baker unig gais y tîm cartref wedi hanner awr o chwarae.
Aeth 70 munud o'r gêm heibio cyn i Munster sgorio - ond daeth dau gais hwyr, a chafodd yr ail ei drosi.
Mae'r fuddugoliaeth yn codi'r Gweilch i bedwar uchaf y Pro12 am y tro.