Scarlets 23-13 Leinster
- Cyhoeddwyd

Scarlets 23-13 Leinster
Mae'r Scarlets yn parhau i fod yn ddiguro gartef yn y Pro12, wedi buddugoliaeth yn erbyn Leinster nos Sadwrn.
Cafodd Jordan Williams, John Barclay a Rory Plitman gais yr un, a daeth gweddill pwyntiau'r Scarlets o draed Steven Shingler a Rhys Priestland.
Roedd Leinster ar y blaen am gyfnod, ond fe darodd y tîm cartref yn ôl i gadw'r gobaith am orffen y tymor ym mhedwar uchaf y Pro12 yn fyw.