Damwain A470: Diwrnod o alaru

  • Cyhoeddwyd
Corey Price, Rhodri Miller, Alesha O'Connor a Margaret Elizabeth ChallisFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Corey Price, Rhodri Miller, Alesha O'Connor a Margaret Elizabeth Challis yn y ddamwain

Mae wedi bod yn ddiwrnod o alaru yn Y Barri ac ym Merthyr wedi i bedwar gael eu lladd mewn damwain ar yr A470 nos Wener.

Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg i gofio am Rhodri Miller a Corey Price oedd yn ddisgyblion yno ac am Alesha O'Connor oedd o'r dref.

Roedd pob un yn 17 oed.

Ym Merthyr roedd teulu'r fam-gu, Margaret Challis, 66 oed, yn rhoi teyrnged iddi.

Dywedodd Alan a Jason Webber fod eu mam yn gwneud popeth dros y teulu, a bod ganddi dros 20 o wyrion.

"Fe aeth hi mas un noson a byth dod yn ôl.

'Y plant'

"Y plant o'dd ei bywyd hi. Do'dd hi byth yn mynd mas, do'dd hi ddim yn yfed na smocio na gwneud dim byd o'i le."

Yn y cyfamser, roedd gwasanaeth cwnsela yn cael ei roi i ddisgyblion Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.

Mae tri o bobl yn parhau i fod yn yr ysbyty - un mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, a dau mewn cyflwr sefydlog.

Mae saith o ddynion ifanc - fu'n cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o yrru yn beryglus - wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Teyrngedau

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Alesha, Rhodri a Corey yn teithio yn yr un car

Fe ddywedodd teulu Rhodri Miller: "Roedd Rhodri yn fachgen 17 oed clyfar a thalentog, a'i holl fywyd o'i flaen. Roedd yn astudio ar gyfer ei Lefelau A yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Roedd e'n fachgen poblogaidd iawn yn yr ysgol a thu hwnt.

"Roedd e'n caru pêl-drod, a chanddo docyn tymor i wylio Caerdydd. Roedd e wrth ei fodd yn y gampfa.

"Fe fydd hiraeth mawr ar ei ôl gan deulu a ffrindiau - pawb oedd yn ei adnabod."

Fe ryddhaodd rhieni Alesha O'Connor, Paul a Sharon ddatganiad, gan ddweud bod Alesha "yn blentyn caredig a chariadus, yn chwaer fach hoffus, ein tywysoges hardd ni. Roedd yr holl deulu yn ei charu. Roedd hi'n ferch ac yn ffrind perffaith, ac mae ei cholli yn gadael bwlch enfawr yn ein teulu.

"Roedd Alesha yn brydferth, galluog ac artistig a chanddi ei holl fywyd o'i blaen.

"Fel teulu, fe hoffen ni estyn ein cydymdeimlad i'r teluoedd eraill sydd wedi colli rhai annwyl."

Coleg Dewi Sant

Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yng Nghaerdydd, lle oedd Alesha yn astudio, ei bod yn unigolyn hyfryd ac y byddai colled fawr ar ei hôl.

Roedd hi wedi ymuno gyda'r coleg ym mis Medi 2014 o Ysgol Uwchradd Sant Richard Gwyn ac roedd hi wedi gwneud argraff hynod o bositif ar bawb yn y coleg yn y cyfnod byr yr oedd hi yno, yn ôl y datganiad.

Dywedodd rhieni Corey Price fod "y teulu wedi eu tristáu gan y golled annisgwyl a thrasig - roedd Corey yn fab, brawd, ewyrth ac yn ŵyr llawn gofal.

"All geiriau ddim egluro sut 'dy ni'n teimlo, ond 'dy ni wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein teulu a'n ffrindiau yn y cyfnod trasig hwn."

Teyrnged

Rhoddodd Dylan Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, deyrnged i Corey Price a Rhodri Miller.

"Roedd Rhodri yn wyddonydd a dyfodol disglair o'i flaen.

"Roedd Corey yn beldroediwr dawnus ac wedi bod gyda Dinas Caerdydd am gyfnod.

"Rydyn ni yn eu cofio fel dau lanc direidus oedd wastad yn gwenu, yn disgleirio yn eu meysydd ond yn aelodau o grŵp cadarn o ffrindiau.

"Mae'r cyfeillgarwch yn amlwg heddi."

Disgrifiad,

Bu gohebydd BBC Cymru, Hywel Griffith yn sgwrsio gyda phennaeth Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Dylan Jones

'Digwyddiad trasig'

Roedd Rhodri Miller yn arfer chwarae pêl-droed i glwb Dinas Powys ac mae ei dad yn parhau i hyfforddi o fewn y clwb.

Bnawn Sul fe ddywedodd llefarydd ar ran y clwb: "'Ry'n ni i gyd wedi'n tristáu o golli Rhodri Miller. Mae ei dad yn cael ei barchu'n fawr gan yr hyfforddwyr, chwaraewyr a'r rhieni yn y clwb.

"Mae'n meddyliau ni gyda'r holl deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig."

Roedd Corey Price yn aelod o academi bêl-droed Caerdydd tan yn ddiweddar. Fe fu munud o gymeradwyaeth yn deyrnged iddo yn ystod gêm yr Adar Gleision ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,
Disgyblion Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn rhoi teyrngedau fore Llun
Disgrifiad o’r llun,
Blodau tu allan i Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Mae blodau wedi eu gadael ger lle digwyddodd y ddamwain
Disgrifiad o’r llun,
Bu'r ffordd ynghau am 12 awr wedi'r gwrthdrawiad