Beiciwr modur wedi ei anafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd

Mae beiciwr modur wedi ei anafu'n ddifrifol wedi iddo gael ei daflu oddi ar ei feic mewn gwrthdrawiad yn Abertawe.
Fe ddywedodd yr heddlu fod yn dyn 30 oed wedi colli rheolaeth ar y beic wrth iddo deithio ar hyd Ffordd Cwmbach yn Waunarlwydd am 8.40pm nos Sadwrn.
Gall unrhywun â gwybodaeth am y ddamwain gysylltu â Heddlu'r De ar 101.