Yr Urdd yn cyhoeddi cynllun prentisiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi cynllun prentisiaeth i roi cyfle i bobl ifanc gael profiad ym maes arwain chwaraeon.
A hithau'n ddechrau Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae Cyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd, Gary Lewis yn dweud mai nod y cynllun ydi "rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad gwerthfawr yn y gweithle a meithrin arweinwyr chwaraeon i'r dyfodol".
Mae 10 o bobl ifanc rhwng 17 - 24 oed yn cymryd rhan yn y cynllun, sy'n para blwyddyn.
Mae pump ohonynt wedi eu lleoli yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn a phump gyda'r Adran Chwaraeon yn gweithio ym mhob cwr o Gymru gan gynnwys Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.
Yn ystod eu cyfnod prentisiaeth, fe fydd y criw yn ennill NVQ Lefel 1 mewn Arwain Gweithgaredd, cymwysterau gan Gyrff Llywodraethu yn ogystal â phrofiad gwaith.
Mae Erddyn Williams, sydd yn 19 oed ac yn dod o Ddyffryn Ardudwy, yn brentis yn swyddfa'r Urdd ym Mangor:
"Mi wnes i orffen yng Ngholeg Meirion Dwyfor llynedd, ac a bod yn onest doeddwn i ddim yn hapus gyda fy ngraddau.
"Doeddwn i ddim wedi gwirfoddoli mewn unrhyw glybiau ar ôl ysgol, felly roedd hwn yn gyfle gwych i mi gael y profiad angenrheidiol i ennill lle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd y flwyddyn nesaf."