Darlledwyr 'i barhau â'r dadleuon' er yr anghytuno

Natalie Bennett, Nigel Farage, Nick Clegg, David Cameron, Ed Miliband, Nicola Sturgeon, Leanne Wood Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r darlledwyr wedi cynnig dwy ddadl fyw yn cynnwys saith plaid wleidyddol

Mae darlledwyr y DU wedi dweud y byddan nhw'n parhau gyda'r dadleuon teledu etholiadol ym mis Ebrill, er i'r Prif Weinidog David Cameron fynnu mai ond unwaith fydd o'n fodlon ymddangos.

Mae'n golygu y gallai cadair Mr Cameron - sydd wedi gwrthod mynd benben ag arweinydd Llafur, Ed Miliband - fod yn wag ar gyfer y dadleuon eraill.

Yn ôl Mr Miliband, mae'n "ddydd y farn" i'r prif weinidog, a disgrifiodd Mr Cameron fel "arweinydd gwan sy'n rhedeg ffwrdd o'i record ei hun."

Yn y cyfamser, mae'r blaid Lafur wedi dweud y bydden nhw'n deddfu i sicrhau bod dadleuon teledu'n orfodol adeg etholiadau cyffredinol.

Roedd y darlledwyr wedi cynnig tair dadl deledu. Dwy rhwng saith arweinydd y prif bleidiau, ac un rhwng Ed Miliband a David Cameron yn unig.

Ond mae Downing Street wedi cyhuddo'r darlledwyr o "wneud llanast" o'r trafodaethau, ac yn dweud bod y prif weinidog yn barod i gymryd rhan mewn un ddadl yn unig gyda'r chwe arweinydd arall - gan gynnwys Plaid Cymru - a hynny cyn i'r ymgyrch swyddogol ddechrau.

'Llanast llwyr'

Wrth siarad ar raglen Sunday Politics y BBC, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan fod y darlledwyr wedi "gwneud llanast llwyr" o'r broses.

"Fe wnaethon nhw wahodd y parti hwn a'r parti arall," meddai.

"Mae'r prif weinidog wedi gwneud cynnig clir iawn - mae angen cael saith plaid yn yr un lle, cael dadl 90 munud cyn i'r ymgyrch ddechrau.

"Neu'r cyfan fyddwn ni'n ei wneud trwy gydol yr ymgyrch ei hun fydd siarad am y dadleuon."

Gwrthbleidiau'n beirniadu

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu safbwynt Mr Cameron.

Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur, Harriet Harman, y dylai Mr Cameron "fod â'r hyder" i ymddangos ar y dadleuon.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, byddai'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yn fodlon cymryd lle Mr Cameron.

Eisoes roedd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud: "Mae ymdrechion y prif weinidog i ddylanwadu ar y darlledwyr yn annerbyniol a haerllug ac mae'n ymddangos ei fod ofn i bobl graffu ar ei record.

"Rwyf i'n barod i ddadlau'n erbyn prif weinidog ac arweinwyr y pleidiau eraill unrhyw bryd."

Amserlen y dadleuon

2 Ebrill: Dadl rhwng saith o'r pleidiau yn cynnwys David Cameron, Ed Miliband, Nick Clegg, Nigel Farage, Nicola Sturgeon, Natalie Bennett a Leanne Wood (ITV)

16 Ebrill: Dadl rhwng saith o'r pleidiau yn cynnwys David Cameron, Ed Miliband, Nick Clegg, Nigel Farage, Nicola Sturgeon, Natalie Bennett a Leanne Wood (BBC)

30 Ebrill:Dadl rhwng David Cameron ac Ed Miliband (Channel 4 a Sky News)