Amserlen yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Wedi i'r Ddeddf Senedd Cyfnod Penodol gael ei chyflwyno yn 2011, cafodd dyddiad yr etholiad nesa' ei bennu ar gyfer dydd Iau 7 Mai, 2015.
Dyma'r amserlen arfaethedig ar gyfer digwyddiadau'r ymgyrch ac ar ôl diwrnod yr etholiad, pan fydd yr ASau newydd a'r Arglwyddi yn dychwelyd. Fe allai rhai o'r dyddiadau amrywio.
Dydd Llun 30 Mawrth
Bydd y Senedd bresennol yn cael ei diddymu, gyda dyddiad yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ailymgynnull wedi'r etholiad cyffredinol. Bydd yna ddyddiad hefyd yn cael ei bennu ar gyfer Araith y Frenhines yn ystod Agoriad Swyddogol y Senedd.
Bydd gwrit hefyd yn cael ei gyflwyno ar gyfer etholiadau ym mhob un o'r 650 etholaeth yn y DU.
Dydd Iau 9 Ebrill
Dyma'r dyddiad ola' i ymgeiswyr seneddol roi eu papurau i'r Swyddogion Etholiadol (16:00), neu'r cyfle ola' i ymgeiswyr dynnu eu henwau'n ôl (16:00).
Dydd Llun 20 Ebrill
Hwn yw'r diwrnod ola' ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru am bleidlais. Mae'n rhaid i bawb sydd eisiau bwrw eu pleidlais gofrestru o flaen llaw.
Dydd Mawrth 21 Ebrill
Fydd dim modd derbyn ceisiadau am bleidlais bost neu bleidlais bost procsi ar ôl 17:00 ar y diwrnod hwn.
Great energy in the storytelling & discussion in the “Well, what would you do next...?” Session at #spaconf18 Thanks all for making it so enjoyable! pic.twitter.com/4pRA96Q8Ey
— John Armstrong-Prior (@dextermixwith) July 4, 2018
Dydd Mawrth 28 Ebrill
Y dyddiad ola' ar gyfer gwneud cais am bleidlais procsi (heblaw am geisiadau brys) - rhaid cyflwyno cais cyn 17:00 ar y diwrnod hwn.
Dydd Iau 7 Mai
Stream #EverythingIsLove now, exclusively on TIDAL. Also stream a TIDAL-exclusive track. https://t.co/OHRZ7lnF8n pic.twitter.com/70xd4Box4P
— BEYONCÉ (@Beyonce) June 16, 2018
Dyma ddiwrnod yr etholiad. Bydd gorsafoedd pleidleisio yn agored rhwng 07:00 a 22:00. Bydd y gwaith o gyfri'r pleidleisiau yn cychwyn wedi i'r gorsafoedd gau..
Does the so-called “Senior Administration Official” really exist, or is it just the Failing New York Times with another phony source? If the GUTLESS anonymous person does indeed exist, the Times must, for National Security purposes, turn him/her over to government at once!
— Donald J. Trump (@realDonaldTrump) September 5, 2018
Dydd Gwener 8 Mai
Bydd y cyfri'n parhau yn ystod y dydd..
Ailymgynnull y Senedd ar gyfer 2015
Dyddiad i'w gadarnhau..
Araith y Frenhines 20
Dyddiad i'w gadarnhau
Ethol llefarydd Tŷ'r Cyffredin 2015
Dyddiad i'w gadarnhau