Dreigiau 26-22 Ulster
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Dreigiau 26-22 Ulster
Fe drechodd y Dreigiau Ulster mewn gêm glos yn y Pro12 bnawn Sul.
Daeth tri chais y tîm cartref yn yr ail hanner - un yr un i Rhys Buckley, Jonathan Evans a Carl Meyer.
Fe rannodd Tom Prydie a Dorian Jones y dyletswyddau cicio.
Fe sgoriodd Craig Gilroy ddau gais i'r ymwelwyr, cyn i Ross Adair groesi ym munudau ola'r gêm.
Er i Ruan Pienaar gicio saith pwynt i Ulster, y Dreigiau oedd yn fuddugol.