Hysbysebu ar fysiau am doriadau heddlu
- Cyhoeddwyd

Bydd rhai bysiau yng ngogledd Cymru yn arddangos hysbysebion yn rhybuddio y gallai toriadau i gyllideb yr heddlu olygu diwedd ar blismona cymunedol.
Bydd hysbysebion gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru ar 38 bws yn yr ardal yn arddangos neges sydd yn gwrthwynebu toriadau, o dan y slogan 'Mae Canlyniadau i Doriadau'.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi gweld gostyngiad o 92 o swyddogion dros bedair blynedd, yn ôl y Ffederasiwn.
Dywed Llywodraeth San Steffan fod diwygio heddluoedd wedi llwyddo a bod trosedd wedi disgyn 15% yn ardal Heddlu'r Gogledd.
Yn ôl gwefan y Ffederasiwn: "Mae eich diogelwch dan fygythiad. Mae'n swnio'n dddramatig, ond mae'n wir."
Dywed y Ffederasiwn fod Heddlu'r Gogledd wedi colli £17.9m o'i gyllideb dros y pum mlynedd diwethaf, gyda £15.5m o doriaidau ar y gweill dros y pedair blynedd nesaf.
Ffigyrau trosedd
Yn ôl gwefan y Ffederasiwn, nid oes modd mesur rhai mathau o waith y mae'r heddlu yn ei wneud drwy ddefnyddio llinyn mesur ffigurau trosedd yn unig - gan nodi'r gwaith o reoli troseddwyr peryglus, amddiffyn plant rhag peryglon ar wefannau a rheoli troseddau trais yn y cartref fel enghreifftiau o hyn.
Dywedodd cadeirydd y Ffederasiwn Simon Newport: "Heddwas ydw i, ond weithiau dwi'n teimlo fel fy mod yn ymladd tân. Mae fy nghydweithwyr a mi yn rhuthro i swydd, diffodd y tân, a rhuthro i'r un nesaf.
"Mae timau plismona cymunedol wedi lleihau. Ble mae'r gwaith o atal trosedd? Ble mae'r gwaith o gasglu gwybodaeth? O ymwneud gyda'r gymuned? Mae wedi mynd."
Comisiynydd Heddlu a Throsedd
Dywedodd Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, ei fod yn fodlon fod yr heddlu yn gallu cynnal y gwaith o blismona'r ardal yn effeithiol.
"Fe fyddwn i'n dweud fod Heddlu Gogledd Cymru yn gwneud gwaith da iawn ar y cyfan o gadw trosedd i lawr a sicrhau fod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn ddiogel mewn mannau cyhoeddus," meddai.
"Mae'n iawn fod y Ffederasiwn yn tanlinellu'r ffaith fod natur trosedd yn newid - ond mae caethwasiaeth fodern, troseddau arlein, a chamdriniaeth rhyw yn ymwneud â phlant i gyd wedi cael eu cysidro mewn manylder yn fy adolygiad o fy nghynllun Heddlu a Throsedd."
Ychwanegodd Mr Roddick: "Mae tystiolaeth glir yn dangos nad ydi'r toriadau wedi effeithio ar effeithlonrwydd Heddlu Gogledd Cymru mewn cwtogi trosedd neu gadw pobl yn ddiogel."