Cyngor Caerfyrddin i dalu am ffordd
- Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Caerfyrddin wedi cytuno i dalu am y gwaith o adeiladu ffordd hanfodol fydd yn cysylltu dros 1,000 o dai arfaethedig â phencadlys newydd S4C yn nrhef Caerfyrddin.
Fe fydd y cyngor yn hawlio'r arian am y gost o adeiladu'r ffordd yn ôl gan ddatblygwyr y tai.
Mewn cyfarfod tu ôl i ddrysau caeedig ddydd Llun, penderfynodd y bwrdd gweithredol i gytuno i ariannu'r ffordd fydd yn costio £5m i'w hadeiladu.
Mae'n debyg y bydd rhywfaint o arian o gronfa wrth gefn y cyngor yn cael ei ddefnyddio i dalu am y ffordd, ond fe fydd y cyngor hefyd yn gofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill.
Hawlio arian yn ôl
Mae'r cyngor yn gobeithio hawlio'r arian yn ôl trwy godi treth y to ar ddatblygwyr y tai newydd fydd yn cael eu hadeiladu.
Mae'r ffordd gyswllt i orllewin Caerfyrddin yn rhan ganolog o'r datblygiad newydd yn y dref ac fe fydd yn cysylltu ffordd yr A40 gyda Ffordd y Coleg, gan gynnig cyswllt uniongyrchol i Barc Dewi Sant a champws coleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Cafodd safle'r datblygiad ei glustnodi fel safle strategol ac fe fydd yn cynnwys ffordd gyswllt newydd, ysgol gynradd, ardal gyflogaeth, canolfan manwerthu a thai fforddiadwy.
Dywedodd Garffîld Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Adleoli S4C: "Mae S4C yn falch iawn bod Cyngor Sir Gâr wedi cymeradwyo'r cynllun ar gyfer ffordd gyswllt newydd Gorllewin Caerfyrddin.
"Ers i ni ddechrau trafod cynllun Canolfan S4C yr Egin gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Gaerfyrddin, mae'r mater o gael ffordd gyswllt newydd wedi bod yn un o'n blaenoriaethau ac mae'r penderfyniad heddiw yn gam arall ymlaen yn y datblygiad cyffrous hwn."
Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd wedi ei chwblhau erbyn 2018 pan fydd pencadlys newydd S4C yn agor yn y dref.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi croesawu'r penderfyniad yn ogystal. Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae'r ffordd newydd hon yn hanfodol ar gyfer creu seilwaith cadarn ar gyfer ardal orllewinol y dref ac ry'n ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r cyngor ar y datblygiad."