Dyn mewn cyflwr difrifol wedi ymosodiad Porthcawl
- Cyhoeddwyd
Cafodd y dyn ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol tu allan i garafan ym Mharc Carafanau Bae Trecco
Mae dyn ifanc yn parhau mewn uned gofal dwys ar ôl ymosodiad difrifol mewn parc carafanau ym Mhorthcawl.
Cafodd y dyn 18 oed o'r Barri ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol tu allan i garafán ym Mharc Carafanau Bae Trecco yn oriau man ddydd Sul.
Mae'r heddlu eisiau clywed gan unrhyw un glywodd neu welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal rhwng hanner nos a 8:00yb.
Mae'r dyn yn parhau yn ddifrifol wael yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.