George Williams i golli gêm Israel oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd

Fydd chwaraewr canol-cae Fulham a Chymru George Williams ddim yn chwarae am hyd at chwe mis ar ôl rhwygo cymal yn ei ben-glin tra ar fenthyg i Milton Keynes Dons.
Cafodd ei anafu yn ystod y gêm rhwng MK Dons a Chesterfield wythnos diwethaf.
Mi gafodd Williams, oedd ar fenthyg tan ddiwedd y tymor, lawdriniaeth ddydd Sadwrn a bydd yn methu gêm Cymru yn erbyn Israel yn Haifa ar 28 Mawrth.
Mae'r chwaraewr 19 oed wedi ennill pum cap rhyngwladol hyd yn hyn.