Herio penderfyniad i gau canolfan hofrennydd
- Cyhoeddwyd

Gall y penderfyniad i gau canolfan hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru gael ei herio gan gomisiynydd heddlu a throsedd yr ardal.
Mae Winston Roddick wedi dweud bod diffyg ymgynghori ynglŷn â'r penderfyniad i gau'r ganolfan yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Daw'r penderfyniad fel rhan o doriadau fydd yn golygu bod wyth allan o 23 o ganolfannau Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) yn cau.
Dywedodd Mr Roddick ei fod yn pryderu "nad yw'r penderfyniad yn canolbwyntio digon ar anghenion gogledd Cymru".
Dywed y NPAS eu bod yn wynebu toriad o 14% i'w cyllideb dros y tair blynedd nesaf, a hynny ar ben arbedion o 23% maen nhw wedi eu gwneud eisoes.
'Gwasanaeth o'r radd flaenaf'
Ychwanegodd Mr Roddick: "Nid yw'r NPAS wedi egluro'r rhesymeg tu ôl i'r model newydd i ni, ac felly rydw i'n ymchwilio a oes modd apelio yn erbyn y penderfyniad.
"Mae'r ganolfan yn Rhuddlan yn benllanw llawer o waith caled gan swyddogion yr heddlu ac mae'r lleoliad yn ganolog i ogledd Cymru.
"Mae hi'n hanfodol bod y gwasanaeth awyr ar gyfer gogledd Cymru yn cael ei gynnal a bod yr ardal yn parhau i dderbyn gwasanaeth o'r radd flaenaf."
Mae'r ganolfan yn Rhuddlan yn un o ddwy sy'n gwasanaethu gogledd Cymru. Fe fydd yr ail ganolfan ym Mhenarlâg, Sir y Fflint yn parhau'n weithredol.
Mae'r penderfyniad i gau canolfan hofrennydd yr heddlu ym Mhenbre, Sir Gaerfyrddin wedi ei feirniadu gan gomisiynydd heddlu a throsedd Dyfed-Powys yn ogystal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2014