Disgwyl i ACau gymeradwyo mesur atal trais
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i ACau gymeradwyo cyfraith er mwyn ceisio atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, wedi i weinidogion wneud newidiadau i'r gyfraith honno.
Roedd y gwrthbleidiau wedi bygwth gwrthod y Bil Trais yn Erbyn Menywod os nad oedd ysgolion yn cael eu gorfodi i ddysgu disgyblion am berthnasau iach.
Dywedodd Plaid Cymru bod addewid gan weinidogion i gryfhau'r canllawiau gwrth-fwlio yn golygu y byddan nhw bellach yn cefnogi'r mesur.
Bydd gofyn i ysgolion hefyd benodi unigolion i fynd i'r afael â cham-drin domestig.
Cafodd ymgais i gynnwys gwaharddiad ar daro plant yn y mesur ei wrthod ddydd Mawrth diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni wedi cryfhau'r bil yn sylweddol ers iddo gael ei gyflwyno, a hynny mewn ymateb i awgrymiadau gan ddioddefwyr, gweithwyr yn y sector a gwrthbleidiau.
"Mae'r sector yn gwbl glir eu bod nhw eisiau i'r bil gael ei gymeradwyo ac rydym yn hyderus y bydd ACau yn ei gefnogi."
Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal yn y Senedd yn ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- 10 Rhagfyr 2014
- 22 Tachwedd 2014
- 14 Tachwedd 2014
- 30 Mehefin 2014