Her gyfreithiol i gynllun lliniaru'r M4
- Cyhoeddwyd

Bydd her yn yr Uchel Lys i fwriad Llywodraeth Cymru i wario £1 biliwn i liniaru'r M4 yn ardal Casnewydd.
Mae Cyfeillion y Ddaear yn dweud y bydd y cynllun i godi traffordd newydd 14 milltir o hyd yn amharu ar yr amgylchedd ac yn effeithio ar warchodfa natur leol.
Nod y mudiad yw ceisio hawl i gael Arolwg Barnwrol ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ystyried yn fanwl yr holl safbwyntiau.
Yr her gyfreithiol
Mae Cyfeillion y Ddaear yn honni fod Llywodraeth Crymu wedi methu:
- Dyletswyddau statudol yn ymwneud ag Ardaloedd Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol;
- Â sicrhau ymgynghoriad llawn a chynnig opsiynau gwahanol fyddai'n llai peryglus i'r amgylchedd;
- Ystyried y cynnydd mewn allyriadau carbon pe bai ffordd newydd yn cael ei hadeiladu.
Er bod Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n ffafrio'r llwybr du, mae nifer o wrthwynebwyr wedi honni y byddai'r llwybr glas yn well, gan ddefnyddio'r strwythur presennol.
Mae 24 blynedd ers i'r cynlluniau cyntaf gael eu datgelu i geisio lliniaru'r tagfeydd traffig o amgylch twneli Bryn-glas yn ardal Casnewydd.
Ond mae gwrthwynebiad wedi bod, gyda phobl yn poeni am y gost a'r effaith negyddol ar fywyd natur - yn enwedig ar wastadeddau Gwent.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud unrhyw sylw pellach tra bod y gwrandawiad cyfreithiol yn mynd rhagddo.
1991 -Ysgrifennydd Cymru David Hunt yn cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer traffordd yn ardal Magwyr ar gost o £300m. Roedd rhai yn pryderu am yr effaith ar fywyd gwyllt.
2002 -Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i'r cynllun oherwydd ei fod yn rhy ddrud.
2004 - Cynlluniau newydd ar gyfer ffordd liniaru drwy Lanwern ar gost o £350m. Y nod oedd agor y ffordd newydd erbyn 2009.
2009 - Rhoi'r gorau i'r cynllun wedi i'r gost gynyddu i £1 biliwn. Llywodraeth yn penderfynu gwario £110m ar wella'r draffordd bresennol.
2014 - Llywodraeth Cymru yn datgan o blaid y llwybr du, ond grwpiau amgylcheddol yn mynegi pryder.
Iolo ap Dafydd, Gohebydd Amgylcheddol BBC Cymru.
Yn y chwarter canrif ddiwethaf mae cynlluniau am lôn newydd ger Casnewydd, wedi cael eu cyflwyno a'u hanghofio ddwywaith.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ystyried eu cefnogaeth yn ofalus i'r draffordd allai gostio biliwn o bunnau.
Anghytuno â hynny mae Cyfeillion y Ddaear, gan weld y prosiect yn un gwastraffus a gwael i'r amgylchedd.
Mi fydd Mr Ustus Hickinbottom yn asesu os ydi Llywodraeth Cymru wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy beidio ag ystyried eu dyletswyddau ar gadwraeth mewn 4 ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn Lefelau Gwent.
Bydd hefyd yn holi a yw'r llywodraeth wedi ystyried ac ymgynghori yn llawn ar opsiynau eraill, allai fod yn llai niweidiol i'r amgylchedd.
Yn ôl Cyfeillion y Ddaear dydi gweinidogion Llywodraeth Cymru heb ystyried eu polisïau eu hunain ar ddelio â newid hinsawdd a cheisio lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Pryderon am y potensial o lygredd a llifogydd sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod yn disgwyl i broblemau trafnidiaeth gynyddu yn yr 20 mlynedd nesaf.
Ar wahân i Ffederasiwn y Busnesau Bychain, mae'r CBI, siambrau masnach de Cymru a'r rhelyw o gwmnïau yn lleol yn cytuno â barn y llywodraethau yn San Steffan a Bae Caerdydd.