Gwleidyddion ddim yn dylanwadu ar yr ifanc, yn ôl arolwg
- Cyhoeddwyd

Mae llai na chwarter pobl 16 ac 17 oed yng Nghymru yn teimlo bod gan wleidyddion ddylanwad mawr ar eu bywydau, yn ôl arolwg.
Ond mae'r ymchwil yn awgrymu bod bron i 90% yn cydnabod ei bod hi'n bwysig pwy sydd mewn grym wedi'r etholiad cyffredinol.
Fe holodd Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru 500 o ddisgyblion ysgol uwchradd o Gymru ynglŷn â'u barn am wleidyddiaeth yng Nghymru a'r DU.
Dywedodd Dr Sioned Pearce o'r sefydliad fod ymatebion disgyblion chweched dosbarth yn enwedig yn ddiddorol oherwydd "y trafodaethau diweddar ynglŷn â gostwng yr oed pleidleisio i 16".
Mae'r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, yr SNP a'r Blaid Werdd oll yn cefnogi'r syniad o roi'r hawl i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol, tra bo'r Ceidwadwyr ac UKIP yn awyddus i gadw'r sefyllfa fel y mae.
Roedd 42% o ddisgyblion chweched dosbarth o blaid gostwng yr oed pleidleisio i 16 ond roedd y nifer ucha', 49% yn erbyn gydag 8% ddim yn gwybod.'
youth/cymrufyw/1
Traean 'ddim am bleidleisio'
Dywedodd traean o'r rhai a holwyd na fydden nhw'n pleidleisio yn yr etholiad ym mis Mai hyd yn oed pe byddai ganddyn nhw'r hawl i wneud.
Mae'r data cychwynnol, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru cyn iddo gael ei gyhoeddi, yn rhan o brosiect ehangach dair blynedd sy'n manylu ar agweddau pobl ifanc at fyw yng Nghymru heddiw.
Dywedodd 23% fod gwleidyddiaeth yn effeithio'n fawr ar eu bywydau, 47% dipyn bach, a 30% ddim o gwbwl.
Roedd gan hanner y rhai a holwyd un pwnc penodol yr oedden nhw'n teimlo'n angerddol amdano. Roedd y rhain yn cynnwys straen yn yr ysgol, difa moch daear a phris llaeth i ffermwyr, ffeministiaeth, hawliau pobl hoyw a chymunedau crefyddol yn cael eu hynysu.
'Ceisio apelio'
Yn ôl Dr Pearce, mae'r ymateb yn dangos y gallai wneud lles i wleidyddion edrych tua'r tymor hir a cheisio apelio at bleidleiswyr y dyfodol.
"Mae'n canlyniadau ni yn awgrymu fod y themâu sy'n pryderu pobl ifanc yn wahanol iawn i'r hyn mae gwleidyddion yn eu trafod.
"Doedd toriadau ariannol, Ewrop a gweddnewid y drefn etholiadol ddim ar agenda'r mwyafrif o'r bobl ifanc oedd yn rhan o'n hymchwil ni."
Beth mae'r bobl ifanc yn ei feddwl?
'Yn amrywio'
Mae 'na wersi i wleidyddion ac ysgolion o'r arolwg, yn ôl Stephen Brooks o'r Gymdeithas Newid Etholiadol.
"Mae safon y ffordd mae gwleidyddiaeth yn cael ei dysgu mewn ysgolion ar draws Cymru yn amrywio'n fawr iawn.
"Nid bai'r athrawon yw hyn - mae gwleidyddiaeth yn bwnc anodd iawn i'w ddysgu a dyw nifer fawr o athrawon ddim yn deall y system wleidyddol na'r ffordd mae'r pleidiau gwahanol yn gweithredu.
"Mae angen i wleidyddion feddwl o ddifri ynglŷn â'r ffordd maen nhw'n cwrdd ac yn y cyfathrebu â phobl ifanc. Dyma wir yw'r cyfle ola i ddatrys system wleidyddol sy'n newid a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cymryd rhan."