Agor cwest i farwolaeth cwrs golff y Celtic Manor

  • Cyhoeddwyd
Ollie Floyd

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth Ollie Floyd, fu farw ar ôl digwyddiad ar gwrs golff y Celtic Manor yng Nghasnewydd ar 3 Mawrth.

Cafodd y dyn 20 oed o ardal Rhosan ar Wy ei ladd wedi i gerbyd chwistrellu bychan droi ar ei ochr a llithro i lyn.

Bu farw yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn ddiweddarach.

Fe gafodd dyn 46 oed, hefyd o ardal Rhosan ar Wy, oedd yn y cerbyd gyda Mr Floyd ei drin yn yr ysbyty am fan anafiadau.

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ddydd Mawrth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Achos y farwolaeth oedd boddi.

Mae'r heddlu a swyddogion iechyd a diogelwch yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad, ac mae'r crwner wedi gohirio'r cwest am ddau fis i alluogi i'r ymchwiliadau hyn barhau.