Dynes wedi marw wedi tân mewn tŷ ym Mhenarth
- Published
Mae dynes oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mro Morgannwg.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De bod criwiau o Benarth a Chaerdydd wedi eu galw i'r tŷ ar Cedar Way, Penarth, am tua 19:20 nos Fawrth.
Mae'n debyg bod y tân wedi dechrau yn ystafell fyw'r tŷ.
Heddlu De Cymru sydd yng ngofal y digwyddiad ac mae ymchwiliad i achos y tân wedi dechrau.