Ras yr Wyddfa: Paratoi at ddathlu'r deugain
- Cyhoeddwyd

Gan fod Ras yr Wyddfa yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni, mae cynlluniau ar droed i greu arddangosfa arbennig i nodi'r achlysur.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd mewn cydweithrediad â phwyllgor y ras, yn gofyn i unrhyw un sydd â memrobilia neu hanesion i'w rhannu i ddod i Ganolfan Ymwelwyr y Mynydd Gwefru yn Llanberis nos Iau, 19 Mawrth, rhwng 19:00 a 21:00.
Bydd y noson yn fan cychwyn ar gyfer castlu deunydd fydd yn sail i arddangosfa yn yr haf.
'Arddangosfa fro'
Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn gobeithio sefydlu 'arddangosfa fro' yn y Mynydd Gwefru ac yn rhoi cyfle i grwpiau lleol ddewis a chyfrannu at y cynnwys.
Dywedodd trefnwyr y digwyddiad: "Bydd swyddogion o'r amgueddfa yn gallu tynnu lluniau neu sganio eitemau ar y noson. A bydd croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb hefyd wrth gwrs."
'O bedwar ban byd'
Un o drefnwyr y ras gyntaf oedd Ken Jones, o Nant Peris. "Yn y blynyddoedd cyntaf, roedd y ras yn cychwyn ar waelod llwybr yr Wyddfa, ond fel dyfodd y ras, fe benderfynodd y pwyllgor ddechrau'r ras yn y pentref yng nghanol bwrlwm y carnifal.
"Mae pobl o bedwar ban byd wedi bod yn cystadlu yn y ras, ond mae un rhedwr lleol, Malcolm Jones o Dremadog, wedi rhedeg y ras bob blwyddyn ers 1976." meddai.
Mae Ken Jones hefyd yn cofio'r record "anhygoel" a gyflawnwyd gan Kenny Stuart o Keswick yn 1985.
"Mae 30 mlynedd wedi mynd heibio bellach ers i Kenny gyflawni'r gamp anhygoel o herio'r Wyddfa mewn llai nag awr a thri munud.
"Yn yr un ras cafodd record arall ei sefydlu sydd yn dal hyd heddiw, sef perfformiad anhygoel y Gwyddel Robin Bryson, a redodd i'r copa mewn amser anghredadwy o 39 munud a 47 eiliad.
"Roedd y flwyddyn 1985 yn gyfnod euraid ym myd rasys mynydd ac yn arbennig i Kenny Stuart. Aeth ymlaen i ennill pencampwriaeth y byd yn yr Eidal a bu'n fuddugoliaethus yn ras y Trofeo Vanoni, ras sydd wedi ei gefeillio â Ras yr Wyddfa.
"Kenny, heb os, oedd y rhedwr mynydd mwyaf llwyddiannus a welodd gwledydd Prydain erioed ac mae yn dal llawer record ar hyd a lled mynyddoedd Prydain hyd heddiw.