Merched Cymru yn curo Croatia
- Cyhoeddwyd

Jayne Ludlow, hyfforddwr Merched Cymru.
Mae ymgyrch tîm pêl-droed merched Cymru yng Nghwpan Istria wedi dod i ben ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth ar ôl ciciau o'r smotyn yn erbyn Croatia.
Mae'r fuddugoliaeth, yn y gemau ail gyfle i benderfynu safleodd terfynol y gystadleuaeth, yn golygu bod Cymru wedi gorffen yn bumed.
Fe roddodd Maja Joscak Croatia ar y blaen ychydig cyn hanner amser, ond fe darodd Cymru'n ôl ar 20 munud cyn y chwiban olaf, diolch i ergyd gan Angharad James.
Gan nad oedd y gystadleuaeth yn caniatau amser ychwanegol fe aeth y gêm yn syth i giciau o'r smotyn.
Er bod ymgais gyntaf Cymru wedi methu, mi fethodd Croatia eu dwy ymgais gyntaf. Manteisiodd Cymru a'r sgôr ar ôl y ciciau oedd 4-2 i Gymru.