Ymchwiliad i farwolaeth Daren Longden ar yr A55
- Cyhoeddwyd

Roedd Daren Longden yn teithio i weithio i gwmni adeiladu pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 37 oed fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr A55 yng ngogledd Cymru ddydd Mawrth.
Bu farw Daren Phillip Longden, oedd o Leeds, wedi'r gwrthdrawiad rhwng dwy lori a fan ger Bodelwyddan.
Cafodd y ffordd ei chau am nifer o oriau ddydd Mawrth.
Dywedodd yr heddlu bod Mr Longden wedi bod yn teithio i weithio i gwmni adeiladu pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Dywedodd ei deulu ei fod yn "dad balch" i'w fab Daniel ac yn ŵr i Lois.
Mae ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau.
Straeon perthnasol
- 10 Mawrth 2015