Cyhuddo dyn arall yn dilyn lladrad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn arall wedi'i gyhuddo yn dilyn lladrad yn swyddfa bost Llangernyw ger Abergele ddechrau'r mis.
Cafodd dyn 28 oed o ardal Bae Colwyn ei gyhuddo ddydd Sadwrn.
Roedd dyn 21 oed eisoes wedi'i arestio a'i gyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad ddydd Mercher.
Digwyddodd y lladrad arfog am oddeutu 14:00 ar 5 Mawrth.