Athrawes: 'Torri rheolau disgyblaeth'

  • Cyhoeddwyd
kim shaw
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Kim Shaw ei diswyddo yn 2012

Mae gwrandawiad wedi canfod bod athrawes oedd yn credu fod yna anghyfiawnder yn yr ysgol wedi torri rheolau cyfrinachedd.

Roedd Kim Shaw wedi honni nad oedd pennaeth Ysgol Uwchradd Pontllanfraith, Caerffili, yn gwrando ar ei phryderon ac roedd hi'n poeni am ddiogelwch disgyblion.

Cafodd Shaw ei atal o'i gwaith yn 2010.

Fe wnaeth Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru benderfynu bod pum cyhuddiad yn erbyn Ms Shaw yn ddilys.

Roedd y Cyngor wedi honni fod Mrs Shaw wedi cyflwyno 20 o gwynion swyddogol yn erbyn cydweithwyr ac wedi gwneud naw cwyn i fwrdd arholi Cydbwyllgor Addysg Cymru - a hynny er mwyn creu aflonyddwch.

Diogelwch plant

Penderfynodd y cyngor ei bod hefyd wedi trafod y broses ddisgyblu gyda chyd-weithwyr, a bod hynny yn torri rheolau cyfrinachedd.

Dywedodd Steve Powell, cadeirydd y panel: "Rydym yn canfod fod Mrs Shaw wedi methu ag ymddwyn mewn modd proffesiynol a sensitif. Roedd ei hymddygiad yn llai na'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan athro.

Dywedodd Mrs Shaw mai ei bwriad hi oedd tanlinellu'r ffaith bod un o'r disgyblion yn ymddwyn mewn modd bygythiol tua ati.

"Roeddwn yn gobeithio atal ymarferiadau amhriodol yn yr ysgol, gweithredoedd oedd yn bygwth addysg a diogelwch y plant."

Fe gafodd Mrs Shaw ei diswyddo o'r ysgol yn 2012, ac mae hi nawr yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyngor sir, gan honni iddynt gadw golwg ar ei symudiadau yn yr ysgol drwy ddefnyddio dulliau anghyfreithiol.

Rhaid nawr i Shaw fod ar gofrestr amodol i ddelio â phryder y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd yn y dyfodol.

Fe fydd rhaid iddi baratoi adroddiadau yn profi ei bod yn ymddwyn yn briodol ar ddiwedd pob gwyliau hanner tymor tan Hydref 2016.