Pryder am ddyfodol 15 o batrolau lolipop
- Cyhoeddwyd

Gallai hyd at 15 o ddynion a menywod lolipop golli eu swyddi o ganlyniad i gynlluniau newydd i geisio arbed arian yn Sir Benfro.
Mae'r cyngor yn dweud bod angen arbed £2.5m o'i chyllideb ar gyfer y ffyrdd dros y ddwy flynedd nesaf.
Fe fydd Cyngor Sir Benfro yn ymchwilio i sut mae'r 39 o bobl lolipop yn gweithio ar eu 40 safle.
Dywedodd pennaeth adran ffyrdd y cyngor wrth BBC Radio Wales y byddai cael gwared â'r swyddi yn arbed £31,000, ond y byddai yn ddibynnol ar ymgynghoriad.
14 o safleoedd
"Mae ychydig o ddadlau os oes gormod o wasanaeth ar hyn o bryd," meddai Darren Thomas ar raglen Jason Mohammad.
"Dim ni yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i feddwl am hyn."
Mae 14 o safleoedd ger ysgolion a 15 o swyddi wedi cael eu rhestru mewn adroddiad i gabinet y cyngor i'w cysidro gan nad "ydyn nhw yn cyd-fynd â'r arweiniad cenedlaethol" am ble sydd angen patrôl.
Dywedodd Joyce Morgan, sydd wedi bod yn ddynes lolipop yn y sir ers dros 40 mlynedd, ei bod wedi ei "siomi'n fawr" gan y cyhoeddiad.
"Rwy'n mwynhau ei wneud o," meddai. "Rwy'n mwynhau edrych ar ôl y plant a'u cadw nhw'n ddiogel."