Effaith gwahaniaethau'r GIG ar gleifion
- Cyhoeddwyd

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain i wneud mwy i sicrhau nad yw'r gwahaniaethau ym mholisïau Gwasanaethau Iechyd Cymru a Lloegr ers datganoli yn effeithio ar bobl sy'n dibynnu ar gyfleusterau gofal iechyd ar ddwy ochr y ffin rhwng y ddwy wlad.
Wrth gyhoeddi adroddiad Trefniadau Iechyd Dros y Ffin Rhwng Cymru a Lloegr, dywed y pwyllgor fod pobl wedi symud rhwng y ddwy wlad ers nifer o flynyddoedd i dderbyn gofal iechyd ac mae'r gwahaniaethau rhwng systemau gwasanaethau gofal Cymru a Lloegr ers sefydlu'r Cynulliad wedi tyfu.
Dywed y Pwyllgor Materion Cymreig y gallai'r gwahaniaethau hyn greu dryswch i rai cleifion sy'n byw a derbyn gofal wrth groesi'r ffin.
Cydweithio
Yn ôl yr adroddiad, rhaid i gyflenwyr gofal yng Nghymru a Lloegr barhau i gydweithio'n agos er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen, heb ystyriaeth i ba wlad y maen nhw'n byw ynddi.
Mae'n awgrymu y dylai Adran Iechyd Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru gydweithio gyda gweithwyr iechyd, yn enwedig gyda meddygon teulu, i sicrhau bod cleifion yn derbyn gwybodaeth am y gwahaniaethau rhwng polisïau iechyd Cymru a Lloegr.
Dywed fod angen i gleifion fod yn ymwybodol o ganlyniadau dewis derbyn triniaeth gan feddygon teulu yng Nghymru neu Loegr ac oblygiadau hyn gael ar eu gofal yn ddiweddarach.
Trosglwyddo gwybodaeth
Ymysg argymhellion eraill, mae awgrym y dylid gwella proses drosglwyddo gwybodaeth yn electroneg rhwng Cymru a Lloegr ac y dylid gwneud mwy i drosglwyddo gwybodaeth i gleifion am unrhyw newidiadau i Wasanaethau Iechyd.
Mae David TC Davies AS, cadeirydd y pwyllgor, wedi dweud: "Nid oedd ymchwiliad y pwyllgor i gryfderau'r gwasanaeth gofal yng Nghymru ... na Lloegr chwaith. Roedden ni'n canolbwyntio ar ardaloedd ble mae angen system hanfodol a manwl o drafodaeth i sicrhau cydweithio traws-ffiniol cyson.
"Ein prif ddarganfyddiad ydi nad oes digon o wybodaeth yn cael ei gynnig i gleifion am effeithiau'r gwahaniaethau mewn polisiau iechyd ar y rhai hynny sy'n dibynnu ar gyfleusterau iechyd ar bob ochr i'r ffin, neu am effaith y gwahaniaethau hynny ar benderfyniadau gofal iechyd y cleifion.
"Rydym am weld cydlynu llawer gwell a rhannu gwybodaeth rhwng y gwasanaethau gofal iechyd yn Lloegr a Chymru, i sicrhau fod cleifion yn derbyn yr un gofal iechyd o safon uchel y maen nhw eu hangen ble bynnag maen nhw'n byw."