Mwy na 1,000 mewn gwasanaeth coffa
- Cyhoeddwyd

Roedd mwy na 1,000 mewn gwasanaeth coffa yn Y Barri nos Fercher wedi i bedwar gael eu lladd mewn damwain ym Mannau Brycheiniog.
Ymhlith y galarwyr roedd ffrindiau a theuluoedd Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Corey Price oedd i gyd yn 17 oed.
Roedd y gwasanaeth hefyd er cof am Margaret Challis, 66 oed o Ferthyr Tudful.
Mae capel Heol Windsor yn dal 500 ac roedd cannoedd y tu allan a chafodd rhan o'r ffordd ei chau wrth i fwy o bobl gyrraedd.
Pob enwad
Yn y gwasanaeth roedd gweinidogion o bob enwad a chafodd canhwyllau eu cynnau er cof am y pedwar gafodd eu lladd.
Bu farw'r bobl ifanc a Mrs Challis yn y gwrthdrawiad ar yr A470 ger y Storey Arms yn hwyr nos Wener.
Mae un o'r rheiny sy'n cael eu trin yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, tra bod dau arall mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd saith o fechgyn yn eu harddegau eu harestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus, ond maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.