Agor a gohirio cwest i farwolaethau pedwar ar yr A470

  • Cyhoeddwyd
Corey Price, Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Margaret Challis
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Corey Price, Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Margaret Challis wedi'r gwrthdrawiad

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ddydd Iau wedi marwolaethau pedwar mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Storey Arms, Aberhonddu.

Bu farw Alesha O'Connor, Rhodri Miller a Corey Price, y tri yn 17 oed ac o'r Barri, a Margaret Elizabeth Challis, 66, o Ferthyr Tudful yn y gwrthdrawiad.

Fe gafodd y cwest ei agor fore Iau yn Llys Crwner Aberdâr cyn i'r crwner ohirio'r achos hyd nes rhag-wrandawiad ar 11 Mehefin.

Mae tri o bobl yn parhau i fod yn yr ysbyty - un mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, a dau mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd saith o ddynion ifanc - fu'n cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o yrru yn beryglus - eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd mwy na 1,000 mewn gwasanaeth coffa yn Y Barri nos Fercher i gofio'r pedwar fu farw.