Carcharu golffiwr am chwe mis am dwyll budd-dal
- Cyhoeddwyd

Roedd Alan Bannister yn mynnu nad oedd wedi hawlio dim nad oedd â hawl iddo
Mae dyn ddywedodd ei fod yn rhy wael i gerdded ond oedd yn chwarae golff yn rheolaidd wedi ei garcharu am chwe mis am hawlio £26,000 mewn budd-daliadau.
Hawliodd Alan Bannister, 56 oed, o'r Barri, raddfa uwch o fudd-dal am analluedd ar ôl gor-ddweud pa mor ddifrifol oedd ei arthritis.
Dywedodd ei fod mewn poen parhaol ac yn cael trafferth cerdded a chodi sosban.
Ond roedd fideo wedi dangos Bannister yn cwblhau cwrs golff 18 twll mewn pedair awr, a chafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd.
Dywedodd y Barnwr David Miller bod Bannister wedi gorddweud ei salwch ond ar yr un pryd roedd yn ennill cystadleuthau "bron yn flynyddol".