Enwi dynes fu farw mewn gwrthdrawiad gyda bws ym Mhenfro

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Google
disgrifiad o’r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Bont Llyn y Felin ym Mhenfro

Margaret Hanks oedd y ddynes 75 oed fu farw wedi iddi gael ei tharo gan fws ym Mhenfro ddydd Sadwrn.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Bont Llyn y Felin fore Sadwrn.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad y byddai hi'n "gadael bwlch nad oes modd ei lenwi ym mywydau pawb oedd yn ei adnabod."

Mae dyn 54 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Straeon perthnasol