Pier Llandudno ar werth
- Cyhoeddwyd

Mae perchnogion pier Llandudno wedi ei roi ar werth am oddeutu £4.5 miliwn.
Mae'n un o dri sydd wedi eu rhoi ar y farchnad gan Cuerden Leisure ynghyd â dau bier yn Blackpool.
Ers ei godi yn y 19eg ganrif mae pier Llandudno wedi cael ei gydnabod fel un o'r goreuon yng Nghymru. Mae'n 2,300 o droedfeddi o hyd ac yn gorwedd wrth droed Pen y Gogarth.
Fe ddaw'r rhan fwyaf o incwm o'r pier drwy werthu cytundebau gwerthu arno, ac fe ddywed Cuerden Leisure eu bod yn ffyddiog y bydd yn denu diddordeb.
Dywedodd Richard Baldwin ar ran cwmni Bilfinger GVA's Retail - fydd yn gwerthu'r tri phier ar ran y perchnogion:
"Mae bob un o'r tri phier yma yn strwythurau eiconig ac wedi denu ymwelwyr yn llu am dros ganrif.
"Fe fydd y tri'n cael eu gwerthu yn rhyddfreiniol gan ddibynnu ar gytundebau sydd eisoes mewn lle. Fel atyniadau proffidiol rydym yn hyderus y bydd y gwerthiant yn ennyn diddordeb sylweddol."
Bydd y tri phier ar werth naill ai fel unedau ar wahân neu gyda'i gilydd am oddeutu £12.6 miliwn.