Cyfarfod cyhoeddus i drafod cau cyffordd ar yr M4
- Published
Mi wnaeth masnachwyr, sy'n anfodlon gyda chynllun sy'n golygu bod cyffordd o draffordd yn cael ei chau, fynychu cyfarfod cyhoeddus ddydd Iau wrth i'r cyfnod prawf o wyth mis ddod i ben.
Mae cyffordd 41 ar ffordd orllewinol yr M4 ym Mhort Talbot yn cael ei chau o 07:00-09:00 a 16:00-18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae rhai wedi honni bod yr arbrawf wedi achosi i nifer y bobl sy'n ymweld â Chanolfan Siopa Aberafan ostwng ac mae eraill yn poeni y bydd yr arbrawf yn dod yn fesur parhaol.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar y mater.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae disgwyl i'r cyfnod prawf ddod i ben ar ddiwedd mis Mawrth a bydd y gweinidog yn gwneud cyhoeddiad wedi hynny."
200 o bobl
Daeth tua 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus nos Iau ym Mhort Talbot.
Dywedodd Steve Garvey, llywydd Siambr Masnach Port Talbot: "Un o'r prif bethau yw bod ein diwrnod gwaith fel arfer yn cychwyn am naw ac yn gorffen am bump.
"Ond erbyn hyn mae pobl yn mynd adref am 15:30 oherwydd nad ydyn nhw eisiau cael eu dal yn y traffig.
"Rydan ni wedi colli rhai masnachwyr - roedden nhw'n colli allan ar siopwyr yn ystod y prynhawn ac roedd yn rhaid iddyn nhw gau eu drysau."
Dywedodd rheolwr Canolfan Siopa Aberafan, Steven Redmore: "Ein problem ni yw bod nifer ein hymwelwyr wedi ei effeithio'n arw.
"Rydw i'n teimlo dros y trigolion, yn ogystal â'r masnachwyr. Gobeithio bod modd gwella'r sefyllfa os byddan ni'n cydweithio."
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Ionawr 2015
- Published
- 4 Awst 2014
- Published
- 22 Gorffennaf 2014
- Published
- 18 Mawrth 2014