'Gwersi Cymraeg ail-iaith yn methu'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwersi Cymraeg ail-iaith mewn ysgolion wedi methu creu siaradwyr Cymraeg hyderus, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor yn y Cynulliad mynnodd Mr Jones nad oedd y llywodraeth wedi diystyru adroddiad yr Athro Sioned Davies o Brifysgol Caerdydd a wnaeth feirniadu'r drefn.

"Mae'n glir i bawb na allwn ni ddweud, er bod Cymraeg wedi bod yn orfodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg am fwy nag 20 mlynedd bellach, ein bod ni wedi creu siaradwyr Cymraeg hyderus," dywedodd Mr Jones.

"Dyw hyn ddim yn golygu na ddylai Cymraeg fod yn bwnc gorfodol."

Rhwystredigaeth

Pan lansiwyd y polisi 20 mlynedd yn ôl doedd hi ddim yn glir a oedd yna ddigon o athrawon yn meddu ar y sgiliau priodol i ddysgu'r iaith, ychwanegodd Mr Jones.

"O ganlyniad profiad gwael fu hanes nifer o ddisgyblion.

"Ni allwn ni ddweud fod y polisi dros yr 20 mlynedd ddiwethaf wedi llwyddo yn y modd y byddai pobl wedi gobeithio," meddai.

Ychwanegodd Mr Jones ei fod e'n teimlo rhwystredigaeth wrth weld gwallau gramadeg mewn arwyddion ffyrdd a dogfennau swyddogol eraill.

Roedd rhaid darparu gwasanaeth Gymraeg i'r un safon a gwasanaeth Saesneg, yn lle meddwl fod "unrhyw hen sillafu yn ddigon da", meddai.