Cyn reolwraig cartref gofal: Tynnu enw oddi ar gofrestr

  • Cyhoeddwyd
cartref

Mae cyn reolwraig cartref gofal yng Ngwynedd, wedi cael ei thynnu oddi ar Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol am esgeuluso pobl oedrannus.

Penderfynodd panel nad oedd Joan Lesley Heatley, oedd yn gweithio mewn cartref preswyl preifat ym Mangor, wedi dilyn safonau Cod Ymarfer.

Nid oedd wedi rhoi gwybod am honiadau o gam-drin ac roedd hyn yn groes i reoliadau Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Yn y gwrandawiad clywodd y panel nad oedd darpariaeth ar gyfer anghenion preswylydd oedd yn aros yn y cartref am gyfnod o ofal seibiant.

O ganlyniad i fethiant Ms Heatley fe ddirywiodd cyflwr y preswylydd.

Clywodd y panel nad oedd Ms Heatley wedi delio â honiadau o gam-drin.

Ymchwiliad mewnol

Roedd tystiolaeth o ymchwiliad mewnol ond nid oedd neb wedi rhoi gwybod i asiantaethau eraill.

Dywedodd y panel fod camymddwyn Ms Heatley "yn ddifrifol".

Nid oedd hi'n bresennol yn y gwrandawiad. Roedd wedi cyfaddef bod y digwyddiadau wedi digwydd, ond nid oedd yn cyfaddef unrhyw gamymddwyn.

Ni fydd Ms Heatley yn gallu gweithio fel rheolwraig cartref gofal i oedolion yng Nghymru.

Roedd y Cyngor Bydwreigiaeth wedi ymchwilio iddi a chafodd ei thynnu oddi ar y gofrestr.