Casnewydd 1-1 Cheltenham

Jimmy Dack Image copyright Huw Evans picture agency

Methodd Casnewydd y cyfle i godi yn ôl i safleoedd y gemau ail gyfle nos Wener wrth iddi orffen yn gyfartal 1-1 yn erbyn Cheltenham yn Rodney Parade.

Yr ymwelwyr oedd y cyntaf i sgorio wrth i'r Cymro ifanc Wes Burns gymryd mantais o gamddealltwriaeth yn amddiffyn Casnewydd i rwydo i gôl wag.

Roedd hi'n gyfartal cyn yr hanner wrth i Miles Storey benio dros y golwr ar ôl cyfarfod croesiad Ryan Jackson o'r ochr dde.

Roedd y gêm yn dod ar ddiwedd wythnos anodd i'r clwb, wrth i'w hymosodwr Chris Zebroski gael ei ryddhau ar fechnïaeth ddydd Mercher ar ôl cael ei gyhuddo o ymosodiad a cheisio dwyn.

Golyga'r canlyniad mai dim ond dwywaith mae Casnewydd wedi ennill yn eu 11 gêm ddiwethaf yn y gynghrair, ac er iddyn nhw ddechrau'r tymor yn addawol, maen nhw nawr wedi disgyn allan o'r safleoedd y gemau ail gyfle i nawfed yn Adran 2.