Gollwng gwastraff: Dedfryd ohiriedig

  • Cyhoeddwyd
GwastraffFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwastraff ei ollwng yn Y Rhyl

Mae dyn busnes wedi cael dedfryd ohiriedig o 15 mis wedi iddo ollwng 1,000 o dunelli metrig o wastraff yn anghyfreithlon.

Fe wnaeth Llys y Goron Yr Wyddgrug gymryd £60,000 oddi wrth John Albert Gizzi o Abergele o dan y Ddeddf Elw Troseddol a'i orchymyn i dalu costau o £47,000.

Yn yr un llys y llynedd roedd yn euog o ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar dir yr oedd yn berchen arno yn Y Rhyl.

Bydd rhaid iddo wisgo tag electronig a dilyn amodau cyrffyw gartre am bum mis rhwng 18:30 a 5:30.

Arbed £84,000

Clywodd y llys ei fod wedi arbed £84,000 am nad oedd wedi mynd â'r gwastraff i safle cofrestredig.

Roedd wedi gwadu gollwng y gwastraff yn anghyfreithlon heb drwydded rhwng Ebrill a Hydref 2012 ond roedd wedi pledio'n euog i ddogfennau anghywir oeôd i fod i guddio'r ffaith ei fod yn troseddu.

Ar ôl y gwrandawiad dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru oedd wedi dwyn yr achos yn ei erbyn: "Roedd y rheswm am y troseddu'n ariannol.

"Gall gollwng gwastraff yn anghyfreithlon niweidio'r amgylchedd ac mae'n tanseilio busnesau sy'n buddsoddi yn ac yn dilyn y drefn briodol."

Disgrifiad o’r llun,
Roedd y dedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug