Rhybudd alcohol i gefnogwyr Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr rygbi wedi eu rhybuddio i yfed yn gall neu wynebu gwaharddiad alcohol ar gyfer gemau Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae polisi yfed Undeb Rygbi Cymru (URC) ar gyfer y stadiwm yn cael ei adolygu'n gyson ac mae'r heddlu hefyd yn monitro'r sefyllfa.
Mis diwethaf, roedd yr heddlu wedi rhybuddio cefnogwyr y byddan nhw'n wynebu dirwy pe baen nhw'n cael eu dal yn prynu alcohol i unrhyw un oedd eisoes yn feddw, ac roedd adroddiadau o drafferthion yn dilyn y gêm yn erbyn Lloegr.
Mae Cymru yn chwarae eu gêm gartref olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon am 14:30.
'Adolygu'n gyson'
Dywedodd llefarydd ar ran URC: "Mae'r penderfyniad i werthu alcohol yn ystod gemau yn cael ei adolygu'n gyson gan fwrdd URC.
"Mae hi'n bwysig nodi bod y stadiwm mewn lleoliad yng nghanol y ddinas ble gall cefnogwyr fynd i dafarndai, neu leoliadau trwyddedig hyd at, ac yn dilyn, y gêm.
"Mae URC yn cymryd yfed yn gall o ddifrif ac mae gwerthiant alcohol yn ystod gemau wedi bod yn cael ei adolygu'n gyson ers i'r stadiwm agor ei ddrysau yn 1999."
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael wrth BBC Cymru: "Dylid rhoi'r neges i gefnogwyr 'byddwch yn gall neu efallai y byddwch chi'n colli'r hyblygrwydd o allu yfed yn ystod gemau'.
"Rydw i'n meddwl y bydd cefnogwyr call yn dweud wrth eu ffrindiau 'bihafiwch'. Os yw hynny'n digwydd ni fydd angen am fwy o reolau neu benderfyniad i roi'r gorau i bethau fel ag y maen nhw."
Bydd swyddogion yr heddlu yng nghanol y ddinas gyda chamerâu er mwyn recordio tystiolaeth a cheisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.