'Bargen Newydd' i athrawon Cymru
- Cyhoeddwyd

Bydd athrawon yng Nghymru yn derbyn mwy o gefnogaeth i ddatblygu eu gyrfaoedd a gwella safon y dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd 'y Fargen Newydd' yn ailstrwythuro datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, a hynny er mwyn eu cefnogi i ddarparu'r cwricwlwm newydd gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf.
Mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno Pasport Dysgu Proffesiynol newydd erbyn mis Medi 2015 er mwyn helpu pob un o 37,673 o athrawon Cymru i gofnodi eu datblygiad proffesiynol yn ystod eu gyrfa.
Yn ôl adroddiad blynyddol Estyn, mae cynnydd bychan wedi bod yn safon y dysgu yng Nghymru, gyda'r safon yn hanner yr ysgolion yn dda neu well, ond mae llai o ysgolion ble mae safon y dysgu yn rhagorol.
Ond roedd yr adroddiad hefyd wedi nodi "bod safon asesiadau yn amrywiol mewn lleiafrif o ysgolion. Yn yr ysgolion yma, mae anghysondeb yn safon yr adborth ysgrifenedig ac nid yw'r disgyblion yn gweithredu ar sylwadau'r athrawon er mwyn cywiro a gwella eu gwaith."
Y 'Fargen Newydd'
Bydd y 'Fargen Newydd' yn golygu:
- Pasport Dysgu Proffesiynol ar gyfer athrawon, wedi'i ddatblygu gan Gyngor y Gweithlu Addysg erbyn Medi 2015. Bydd hwn yn galluogi athrawon i nodi cyfloedd dysgu addas a'u hannog i ddatblygu drwy gydol eu gyrfa.
- Safonau Proffesiynol diwygiedig ar gyfer y gweithlu addysg fydd yn nodi'r sgiliau a'r wybodaeth broffesiynol angenrheidiol ar gyfer athrawon er mwyn gallu darparu cwricwlwm y dyfodol, ynghyd â rhoi'r cymwysterau gwreiddiol yn eu cyd-destun ar gyfer gyrfa fel athro.
- Cefnogaeth a chanllawiau gan Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod datblygiad proffesiynol yn ganolog i'r cynlluniau Datblygu Ysgol newydd, gan bwysleisio blaenoriaethau dysgu ar gyfer gweithwyr unigol, a'r holl weithwyr.
- Cefnogaeth i athrawon er mwyn iddyn nhw allu astudio ar gyfer y Gradd Meistr newydd mewn Ymarfer Dysgu, gan sicrhau bod yr ymchwil academaidd diweddaraf ar arferion dysgu effeithiol yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth yng Nghymru.
- Cydweithio gydag athrawon er mwyn datblygu cyfres o Lwybrau Datblygu Gyrfa, ynghyd â darganfod pa gefnogaeth fydd angen er mwyn sicrhau eu cynnydd ar hyd y llwybrau hynny.
- Cefnogaeth i athrawon er mwyn derbyn cyfleoedd dysgu o safon drwy gynlluniau datblygu proffesiynol.
- Canolbwyntio ar arweinyddiaeth wrth i Lywodraeth Cymru gydweithio gyda chwmni Consortia er mwyn datblygu dulliau newydd ac arloesol o ddatblygu arweinyddiaeth.
'Cyflawni gweledigaeth'
I nodi'r cyhoeddiad, bydd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, yn ymweld ag Ysgol Gynradd Brynnau ym Mhontyclun er mwyn gweld sut mae'r disgyblion yn elwa o ddatblygiad proffesiynol parhaus yr athrawon.
Cyn yr ymweliad dywedodd: "Ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd ag un o'r cyfnodau o newid fwyaf uchelgeisiol mae'r system addysg yng Nghymru wedi'i weld, gyda'r bwriad o wella safonau.
"Ond rydym yn ymwybodol bod arweinyddiaeth a dysgu ardderchog yn hanfodol i'r disgyblion ac i'n gwaith o wella canlyniadau pob disgybl.
"Mae'r dystiolaeth ryngwladol gan fudiadau fel y OECD yn gwbl glir, mae safon yr athro yn yr ystafell ddosbarth yn cael effaith fawr ar safon y dysgu a'r addysgu.
"Bydd cael athrawon o safon, yn ganolog er mwyn gallu cyflawni gweledigaeth adroddiad Donaldson am gwricwlwm newydd.
"Mae'r 'Fargen Newydd' yn cynnig cefnogaeth i athrawon, ond hefyd yn disgwyl y byddan nhw'n parhau i ddiweddaru eu sgiliau.
"Y bwriad yw sicrhau bod ein hathrawon a gweithwyr cefnogol yn derbyn cyfleoedd dysgu drwy gydol eu gyrfa, er mwyn iddyn nhw allu datblygu eu harferion dysgu ac wynebu her y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2014