Y Seintiau Newydd yw'r Pencampwyr
- Cyhoeddwyd

Seintiau Newydd 3-0 Y Bala
Mae'r Seintiau Newydd wedi eu coroni'n Bencampwyr Uwchgynghrair Cymru.
Dim ond pwynt oedd angen ar Y Seintiau Newydd i sicrhau'r teitl, ond cafodd y tîm cartref fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Y Bala.
Aeth Y Seintiau Newydd ar y blaen diolch i gôl gan Adrian Cieslewicz yn yr hanner cyntaf, cyn i Matty Williams ychwanegu dwy at eu cyfanswm wedi'r egwyl.
Cafodd tair gêm arall eu chwarae ddydd Sadwrn, a dyma'r canlyniadau:
Caerfyrddin 3-1 Derwyddon Cefn
Y Drenewydd 0-2 Airbus UK Brychdyn
Y Rhyl 1-1 Bangor