Altrincham 1-4 Wrecsam

Pêl-droed

Aeth Wrecsam ar y blaen yn gynnar yn y gêm, diolch i gôl gan Kieron Morris.

Pum munud cyn diwedd yr hanner cyntaf llwyddodd Ross White i ddyblu mantais yr ymwelwyr, cyn i Louis Moult sgorio'r drydedd i Wrecsam wedi 44 munud, i'w gwneud hi'n 0-3 ar yr egwyl.

Sgoriodd James Lawrie yn gynnar yn yr ail hanner i Altrincham, ond sgoriodd Connor Jennings bedwaredd gôl Wrecsam bum munud cyn y chwiban olaf.