Ymgyrch newydd i dynnu sylw at gam-drin domestig

  • Cyhoeddwyd
Cam-drin domestigFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd er mwyn ceisio tynnu sylw at arwyddion a symptomau cam-drin domestig.

Mae'r ymgyrch 'Croesi'r llinell' yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r arwyddion bychan all ddangos bod rhywun yn dioddef trais yn y cartref.

Daw'r ymgyrch ychydig ddyddiau wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i geisio atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ystyried ble mae'r llinell rhwng ymddygiad normal ac ymddygiad o reoli, a hynny mewn dwy sefyllfa wahanol.

'Codi ymwybyddiaeth'

Bydd hysbysebion yn cael eu darlledu nos Lun ar ITV Cymru ac S4C, a bydd fersiynau estynedig, rhwydweithiol o'r hysbysebion ar gael ar lein.

Wrth wylio'r fersiynau rhyngweithiol, gall pobl glicio ar y pwynt ble maen nhw'n teimlo bod yr ymddygiad yn mynd yn annerbyniol.

Yn y sefyllfa gyntaf, mae dyn yn bychanu ei bartner wrth iddyn nhw eistedd mewn tafarn.

Wrth iddi hi fynd yn amlwg yn fwy gofidus, mae'r troslais yn gwahodd y gynulleidfa i farnu ar ba bwynt maen nhw'n meddwl bod y dyn yn croesi'r llinell rhwng tynnu coes a cham-drin.

Yn yr ail, mae dau ffrind yn cwrdd am ginio mewn bwyty.

Mae un ar ei ffôn symudol byth a beunydd. Wrth i'w ffrind weld mwy a mwy o ddylanwad gan y partner anweladwy, mae'r troslais eto yn gwahodd y gynulleidfa i ddweud ble caiff y llinell ei chroesi rhwng gofal a rheolaeth.

Daw'r ddwy hysbyseb i ben gyda'r hashnod #blemaerllinell a chyfeiriad gwefan Byw Heb Ofn, lle gall pobl gael rhagor o wybodaeth a chymorth.

Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: "Mae sawl ffurf i gam-drin domestig a dyw hyn ddim bob amser yn arwain at gleisiau neu dorri asgwrn. Mae cam-drin emosiynol hefyd yn gam-drin domestig a dyna sut y dylai gael ei weld.

"Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth am arwyddion a symptomau cam-drin mewn perthynas, helpu'r rheiny sy'n dioddef a'u ffrindiau a'u teuluoedd i ddeall nad yw cam-drin yn ymddygiad 'normal', a'u darbwyllo i gael y cymorth y mae ei angen arnyn nhw."